Mae Croeso Cymunedol wedi bod yn gyfle gwych i ni gynnig teimlad o gynhesrwydd a sicrwydd i bobl Sblot, Adamsdown a Thremorfa. Yn enwedig gan fod costau byw'n codi a phobl yn ei chael yn anodd gwresogi eu cartrefi, Croeso Cymunedol yw ein ffordd ni o gynnig awyrgylch cartrefol, croesawus, gyda soffas i ymlacio arnynt, teganau a llyfrau i blant, a lle tawel i bobl weithio.
Rydym wedi dechrau cynnig Croeso Cymunedol yn adeilad Four Elms ar gyfer y gymuned leol bob dydd Mawrth rhwng 10am a 5pm!
beth i'w ddisgwyl?
Cewch fwynhau lle cynnes, croesawus gyda gweithgareddau neu fynd i ystafell dawel – dewiswch chi. Mae yna weithgareddau syrcas, crefftau, bwyd, cawodydd, lle i weithio a lle i gynhesu a chael cefnogaeth. Bydd ein tîm cymunedol gwych o gwmpas drwy'r dydd i helpu os oes gennych gwestiynau neu i sôn am weithgareddau'r diwrnod hwnnw.
Trefn arferol Croeso Cymunedol ar ddyddiau Mawrth:
- 10:00am – 5pm - Lle chwarae meddal, snacs, diodydd cynnes, lle tawel i bobl weithio a gofod cymunedol i gymdeithasu
- 12:30pm – 1:00pm - Cawl AM DDIM i ginio
- 1:30pm – 2:30pm - Awr Llesiant Oedolion, cadw dyddlyfr, amser i sgwrsio a rhannu straeon ac anogaeth gydag eraill
- 3.30pm – 4.30pm - Sesiwn Syrcas i'r Teulu
-
Cyfleusterau:
- Mae gennym ddwy gawod boeth (un ohonynt yn addas i gadeiriau olwyn) a thywelion glân ar gael
- Mae popty microdon a diodydd poeth ar gael i chi unrhyw bryd
- Mae byrddau, cadeiriau, mannau i wefru'ch dyfeisiau electronig a wifi am ddim
- Mae mat llawr meddal mawr yn ein prif ofod, sy'n ei wneud yn fan diogel perffaith i bobl o bob oed fod yn egnïol a rhoi cynnig ar weithgareddau syrcas
beth sydd gan bobl i'w ddweud am ein Croeso Cymunedol:
“Mae mor glyd a chynnes”
"Rydyn ni wrth ein bodd yma. Mae'n lle mor ddiogel ar gyfer fy mhlant"
does dim angen bwcio. dewch draw unrhyw ddydd mawrth rhwng 10am a 5.30pm.