2024_08_MJR_parcfest_2085-web.jpg

Gŵyl Haf 2025: Gŵyl Parc Fest – Tir Cyffredin

Mae Partneriaeth y Filltir Sgwâr yn falch o gyhoeddi y bydd yr ŵyl haf, Gŵyl Parc Fest, yn digwydd unwaith eto yn 2025!  

Rydym yn chwilio am artistiaid, grwpiau cymunedol ac unigolion lleol i wneud gwaith creadigol ar gyfer yr haf a'n digwyddiad cymunedol gwych ni.  

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 28 Mai 2025, 12pm

Pryd a ble mae'r digwyddiad? 

6 Medi ar Gaeau Anderson (CF37 0EG, Constellation St, Caerdydd)

Pa fath o waith rydym yn chwilio amdano?

Rydym yn chwilio am unigolion a grwpiau cymunedol i greu gwaith newydd ac i arwain gweithdai ar y diwrnod a/neu yn y cyfnod cyn y digwyddiad fel rhan o raglen yr haf. 

Mae'n rhaid i'r gwaith:

Gael ei gyflwyno trwy gydol Gorffennaf-Awst a/neu yn yr ŵyl ar 6 Medi.  
Bod yn greadigol! Croesewir cynlluniau o bob diwylliant, iaith a ffurf ar gelfyddyd, yn cynnwys y pethau isod ymhlith eraill:

  • Y celfyddydau gweledol/ perfformio/ awyr-agored
  • Gosodweithiau
  • Gweithgareddau crwydrol/ promenâd
  • Gwaith safle-benodol
  • Syrcas/ dawns
  • Sioeau gweledol
  • Visual/ performance/outdoor arts
  • Sioeau pypedau
  • Cerddoriaeth/ offerynnau taro
  • Celf a Chrefft
  • Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
  • Carnifal
  • Barddoniaeth
  • Gwaith ymchwil cymdeithasol neu artistig 

Bod yn hygyrch i gynulleidfa amrywiol. Bod yn groesawus ac yn gynhwysol i bawb sy'n byw ac yn gweithio ym Milltir Sgwâr Adamsdown, Sblot a Thremorfa ynghyd â Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches.

Defnyddio pethau cynaliadwy: Os defnyddiwch bethau materol, dylent fod wedi'u hailgylchu, yn sgrap neu'n wastraff. Ailddefnyddio, ailbwrpasu, ailgylchu, ailddyfeisio, uwchgylchu!

Bod yn berthnasol i'r thema, "tir cyffredin", a chyd-fynd ag amcanion Partneriaeth y Filltir Sgwâr (rhagor o wybodaeth am hyn isod).

Beth all NoFit State ei gynnig i chi?

  • Grantiau bach o £500, grantiau canolig o £1000 a dim ond un grant o £2000 
  • Cefnogaeth i ddod â'ch syniad yn fyw, ac i gael gafael ar y deunyddiau a'r cymorth ymaferol y gallai fod arnoch eu hangen. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i artist neu gerddor cymunedol. Allwn ni ddim storio unrhyw brosiectau, a gofynnwn i chi ystyried ble byddwch yn gwneud y peth ar gyfer eich prosiect ac yn ei storio ar ôl y digwyddiad

Beth yw Partneriaeth y Filltir Sgwâr?   

Rydym yn bartneriaeth o artistiaid a sefydliadau cymunedol sy’n gweithio yn Adamsdown, Sblot a Thremorfa. Amcanion y bartneriaeth yw:

  • Cyd-greu rhaglen ddiwylliannol (gweithdai, perfformiadau, arddangosfeydd, cynyrchiadau digidol) sy'n hygyrch i bobl yr ardal.
  • Dathlu amrywiaeth diwylliannol unigryw ein hardal.
  • Cryfhau'r gymuned a gwneud ein Milltir Sgwâr yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.
  • Cynnig llwyfan i artistiaid a phobl greadigol amrywiol i adrodd eu straeon.
     

Beth yw Gŵyl y Filltir Sgwâr a Rhaglen yr Haf?

Mae'r ŵyl a gweithdai'r haf yn cael eu creu gan ac ar gyfer pobl Sblot, Tremorfa ac Adamsdown i ddathlu celfyddydau a diwylliant yr ardal. 

Mae'r ŵyl haf yn ddiwrnod rhyfeddol o berfformiadau, gosodweithiau a sesiynau creu, ac yn gyfle i ddathlu'r gymuned, a'r cyfan am ddim.  

Yn y cyfnod cyn yr ŵyl, bydd cyfle i bobl a theuluoedd lleol, ffoaduriaid a cheiswyr lloches gymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai am ddim dros wyliau'r haf. 

Beth yw'r thema?

 Y thema y byddwn yn ei harchwilio eleni yw TIR CYFFREDIN

Mae Partneriaeth y Filltir Sgwâr wedi ymrwymo i feithrin tegwch ac adennill mannau cyhoeddus, gan gydnabod bod straeon a lleisiau amrywiol yn hanfodol er mwyn cael cymdeithas gref ac iach. Eleni, mae digwyddiad Partneriaeth y Filltir Sgwâr yn canolbwyntio ar y tir cyffredin sy'n uno'r bobl a'r llefydd yn ein cymunedau.

A beth yw'r tir cyffredin hwnnw? Gall fod yn lle penodol rydym yn ei rannu, neu ein hanes a'n straeon lleol, y teimlad o gymuned a gawn yn ein mannau addoli neu'n canolfannau cymunedol, yr ieithoedd a siaradwn, y gerddoriaeth a grëwn…  . Nid mater o debygrwydd ydyw bob amser chwaith ond y ffordd rydym yn adeiladu ar ein gwahaniaethau ac yn eu troi'n gryfderau creadigol newydd.  

Er mwyn cael sgwrs am "dir cyffredin", mae'n rhaid cael amrywiaeth eang o bobl a grwpiau, felly... cymerwch ran!  Byddai'n dda clywed wrthych!

Callout QR.png

Sut mae gwneud cais?

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: 12:00  Mai 28, 2025

Er mwyn cyflwyno'ch prosiect, llanwch y ffurflen hon (neu sganio'r cod qr ar y dde) 

Os oes anghenion hygyrchedd yn effeithio ar eich gallu i ymgeisio, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni'ch helpu trwy'r broses.

Neu gallwch ysgrifennu neges ebost, neu anfon recordiad llais/fideo at Valentina Solari-Vodanovic (Cynhyrchydd Digwyddiad yr Haf) ar [email protected].

Pwnc: Cais ar gyfer Digwyddiad yr Haf 2025

Manylion cysylltu (enw, cyfeiriad, cod post, rhif ffôn)

Enw ar y cyfryngau cymdeithasol / Cyfeiriad eich gwefan

Disgrifiad byr o'r prosiect:  dim mwy na 100 o eiriau. Caiff hwn ei anonymeiddio a'i rannu ag aelodau o'n cymuned yn ystod y broses benderfynu.

Disgrifiad cryno o'ch cynllun/gweithgaredd (Beth fyddwch chi'n ei wneud? Gyda phwy fyddwch chi'n gweithio?  Sut fyddwch chi'n gwneud i hyn ddigwydd/weithio?  Ble bydd yn digwydd?)  

Llinell amser eich cynllun (Nodwch faint o sesiynau rydych chi'n bwriadu eu cyflwyno, hyd y sesiynau a'r dyddiadau, a'r amserlen ar ddiwrnod yr ŵyl (e.e. cymryd rhan yn y parêd, ac yna ddau weithdy/perfformiad).

Cyllideb/Ffioedd – rhowch ddadansoddiad syml 

Perthynas â'r thema (Sut mae'ch cynllun yn berthnasol i'r thema "tir cyffredin" ac amcanion y Filltir Sgwâr?) 

A oes angen rhyw gefnogaeth arall arnoch i weithredu'ch cynllun?  

Faint o arian rydych chi'n gwneud cais amdano? 

Dolenni: Os oes gennych luniau/fideos, gofynnir i chi gynnwys dolenni

Gofynnir i chi gadw'ch atebion yn fyr ac yn gryno!

Y broses ddewis

Adolygu:  Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, bydd panel o bobl o dîm NoFit State ac aelodau o Bartneriaeth y Filltir Sgwâr yn ei adolygu i wneud yn siŵr bod y ceisiadau'n cydymffurfio â'n gofynion. Hefyd, byddwn yn rhannu disgrifiadau byr, dienw o'r cynlluniau â grŵp bach o aelodau'r gymuned er mwyn ymgynghori â nhw.

Sgyrsiau:  Os yw'ch cynllun yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd am sgwrs fer (dim mwy na 40 munud) i drafod eich cais. Mae hwn yn gyfle da i chi ac i ninnau ofyn cwestiynau. Efallai y byddwn yn gwneud awgrymiadau hefyd neu'n trafod newidiadau bach os yw'n berthnasol. Cynhelir y sgyrsiau yn yr wythnos sy'n dechrau ar 2 Mehefin. 

Penderfyniad Terfynol: Byddwn yn cysylltu â phobl â chynnig terfynol. Efallai y byddwn yn gosod amodau a drafodwyd gennym yn eich cyfweliad. Ar ôl hynny bydd gennych wythnos i dderbyn neu wrthod ein cynnig.  Cyhoeddi'r penderfyniad terfynol:  13 Mehefin
Mae'r tîm cynhyrchu bob amser yn barod iawn i ateb eich cwestiynau.  Os hoffech weithio mewn ffordd arall, rydym yn barod i glywed eich barn. 

Gallwch gysylltu â Valentina ag unrhyw syniadau yn y cyfeiriad ebost uchod neu ffonio'r dderbynfa ar +44 (0) 2920 221 330.
Ymhlith partneriaid prosiect y Filltir Sgwâr / Square Mile mae NoFit State Circus, artistiaid llawrydd, cynghorwyr etholedig Adamsdown, Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA), Green Squirrel, Llamau, Oasis, Ysgol Gynradd Adamsdown, PCSOs lleol a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.