2025_05_MJR_sabotage-sat_1018-web.jpg

BAMBOO a SABOTAGE yn mynd i iwerddon ar yr un pryd

Newyddion | Sabotage | Bamboo |

Mae 11 mlynedd ers i ni berfformio yn Iwerddon, ond byddwn ni yn ôl yno ym mis Gorffennaf, â pherfformiadau o SABOTAGE a BAMBOO mewn tair gŵyl gelfyddydau. 
 
Mae SABOTAGE yn mynd i Ŵyl Gelfyddydau Ryngwladol Galway, 11-27 Gorffennaf, ac ar yr un pryd, bydd BAMBOO yng Ngŵyl Gelfyddydau Cairde Sligo ar 11/12 Gorffennaf a Gŵyl Gelfyddydau Earagail yn Leitir Ceanainn ar 13/14 Gorffennaf. 

Daw SABOTAGE yn ein pabell Big Top i Bier Nimmo, Gaillimh, 11-27 Gorffennaf.  Mae tocynnau ar werth nawr drwy wefan Gŵyl Gelfyddydau Ryngwladol Galway www.giaf.ie/festival/event/sabotage  
 
Bydd perfformiadau o BAMBOO yn Queen Maeve Square yn Sligeach ddydd Gwener 11 Gorffennaf am 3pm a dydd Sadwrn 12 Gorffennaf am 3pm a 6pm, does dim angen tocynnau, ac yn Castle Grove Country House, Leitir Ceanainn, ddydd Sul 13 Gorffennaf am 2pm a 4pm a dydd Llun 14 Gorffennaf am 2pm yn unig. Mae tocynnau ar gael o www.eaf.ie/events/bamboo/ 
 
Ffoto: Mark Robson