Daeth diwedd blwyddyn arall! A ninnau'n paratoi i groesawu blwyddyn newydd 2026, gadewch i ni oedi am funud a meddwl pa mor bell rydyn ni ym Mhrydain wedi dod ym myd syrcas gyfoes a chelfyddydau amgylchol.
Drwy gydol 2025, buon ni'n driw i'n nodau o fod yn syrcas syfrdanol, gan ddathlu cymuned a chyd-greu, meithrin arweinyddiaeth yn y sector a hybu cyfiawnder cymdeithasol. O weithdai lleol yn Sblott i berfformiadau syrcas gyfoes a theatr gorfforol o'r radd flaenaf ledled Ewrop, cawsom flwyddyn gyffrous!
Cymuned a chyfiawnder cymdeithasol
O'r gaeaf, i'r gwanwyn a'r haf, roedd Four Elms yn fwrlwm o sesiynau syrcas, crefftau a chwarae, am ddim, i deuluoedd lleol. Cyflwynwyd gweithgareddau hanner tymor a rhaglen gwyliau'r haf ar y cyd â'n partneriaid cymunedol yn Sblot, Adamsdown a Thremorfa.
Gyda sesiynau syrcas wythnosol ar ôl ysgol, gweithdai Cymraeg a phrosiectau creadigol fel Celf Cymraeg a Foreigner In My Body, llwyddwyd i feithrin talent lleol, chwyddo lleisiau newydd a dyfnhau cyd-ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a chyd-greu. Hefyd, cyflwynwyd sesiynau syrcas mewn ysgolion, sefydliadau ffoaduriaid a chymdeithasau tai gan ICATs (Athrawon Celfyddydau Cynhwysol y Syrcas) a ddefnyddiai gweithdai chwareus, seiliedig ar sgiliau, i feithrin hyder, cysylltiad a chynhwysiant.
Syrcas syfrdanol ar daith
Cafodd SABOTAGE flwyddyn ryngwladol, gan orffen taith aeaf 2024 yn y Biennale Internationale des Arts du Cirque ym Marseille. Yna cychwynnwyd ar daith 2025 i Henffordd, Basingstoke, Galway a Chernyw cyn dod adref i fwynhau rhediad hynod lwyddiannus, gyda chynulleidfaoedd o filoedd, yng Nghaerdydd.
Bu sbloet awyr-agored BAMBOO ar daith lwyddiannus ym Mhrydain ac Ewrop, gyda pherfformiadau o Peterborough i La Strada yn Awstria, Gŵyl Sziget yn Budapest a nifer o wyliau mawr y DU fel Glastonbury, Greenbelt ac IF: Milton Keynes. Roedd yn gyfle i fwynhau theatr gorfforol a chelfyddydau amgylchol ar raddfa fawr yn yr awyr agored.
Ochr yn ochr â'r teithiau hyn, dechreuwyd cynnal labordai castio, preswyliadau creadigol ac ymarferion ar gyfer sioe Big Top newydd sbon a fydd yn cychwyn ar daith yn 2026. Dyma sioe fydd yn sicrhau bod gan y cwmni raglen feiddgar, uchelgeisiol, wedi'i gwreiddio'n gadarn ym myd syrcas gyfoes, at y dyfodol.
Camau i’w cymryd a seilwaith er budd yr hinsawdd
Gartref yn Adamsdown, buddsoddodd NoFit State mewn gwneud adeilad Four Elms yn wyrddach ac yn fwy hygyrch trwy osod 49 o baneli solar a lifft platfform newydd, gyda chefnogaeth gan ein harianwyr.
Aeth y cwmni ati i gyd-greu Ichi ’N’Chatu, gyda Circus Zambia a Zukani Action Zambia. Dyma ffordd o uno syrcas, gweithredu dros yr hinsawdd, a chyfiawnder cymdeithasol trwy gydweithio rhyngwladol. Yn ogystal, buom yn Bamboo Summit y DU yn Stoke on Trent gydag ymarferwyr, ymchwilwyr a phartneriaid eraill o bedwar ban byd er mwyn archwilio’r posibiliadau ar gyfer dylunio a pherfformio mewn ffordd gynaliadwy â bambŵ ar gyfer prosiectau celfyddydol awyr-agored, amgylchol.
Sgiliau, llesiant ac arwain y sector
Drwy gydol y flwyddyn, bu aelodau’r gymuned, staff a phartneriaid yn cymryd rhan mewn hyfforddiant yn amrywio o waith ieuenctid a chymorth cyntaf i sgiliau achub arbenigol, gan gryfhau dulliau gweithio diogel a hyderus ar brosiectau a theithiau. Bu gweithdai ar wydnwch iechyd meddwl, gwrthsefyll polareiddio a defnyddio syrcas i hybu llesiant o gymorth i lunio rhaglen leol fwy cynhwysol a chydgysylltiedig.
Cyfrannodd ein tîm hefyd at sgyrsiau cenedlaethol am y sector mewn digwyddiadau fel y FRESH Street Circostrada Conference a Circus Change Up, gan sicrhau bod lleisiau syrcas gyfoes a theatr gorfforol o Gymru a'r Deyrnas Unedig i'w clywed mewn mannau allweddol yn y diwydiant.
Dathliadau ac edrych ymlaen
O gabaret y CCB ‘Spring in Wales’ i Ŵyl Parc Fest – Tir Cyffredin a dathlu 30 mlwyddiant gyda Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot, cafodd y flwyddyn ei hatalnodi gan gynulliadau llawen a drefnwyd gan bobl yr ardal ac ar eu cyfer.
Roedd dosbarthiadau newydd, llwyddiant i dorri record byd a chabarets cymunedol yn dangos y datblygiad yn sgiliau'r cyfranogwyr, ac ar ddiwedd y flwyddyn cafwyd dathliad Nadoligaidd ag aelodau'r dosbarthiadau'n perfformio o flaen eu ffrindiau a'u perthnasau.
Mae cynlluniau ar waith ar gyfer taith BAMBOO 2026 a sioe newydd y Big Top ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf gydag egni, pwrpas ac ymdeimlad cadarn o gymuned. Y nod yw dal i hybu syrcas gyfoes a chelfyddydau amgylchol yn y DU.
Ydych chi’n hoffi stori weledol dda? Tapiwch isod i agor ein hamserlen gyda lluniau o Uchafbwyntiau 2025 a chewch weld y sioeau, y prosiectau cymunedol a'r ymgais lwyddiannus i dorri record yn dod yn fyw.