AGM-Banner-2024.jpg

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025 - Dydd Sadwrn 14 Chwefror 2026

Newyddion | Cwmpeini | Cymuned |

2025 CCb

Dydd Sadwrn 14 Chwefror 2026​ | 12:30 - 14:30pm

NoFit State Community Circus, Four Elms, Four Elms Road, Cardiff CF24 1LE

Unwaith y flwyddyn, rydym yn casglu pawb at ei  gilydd i fwrw golwg dros yr hyn rydym wedi’i greu, yr hyn rydym wedi’i ddysgu, a ble yr hoffem fynd nesaf. Dyma'ch cyfle i fod yn rhan o'r sgwrs honno ac i helpu i lunio'r hyn sy'n dod nesaf i NoFit State.

Pam ddylwn i ddod draw?  A ninnau'n gwmni cyfyngedig, mae'n rhaid cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) o dan y gyfraith. Yno, mae aelodau ar y cyd yn cymeradwyo'r cyfrifon ac yn helpu i gadw'r cwmni yn agored, yn dryloyw ac yn iach. Mae'n ffordd syml ac ymarferol o ofalu am gwmni sy'n bwysig i chi.

  • Cewch weld eich effaith ar ein teithiau, ein hyfforddiant a'n prosiectau creadigol dros y flwyddyn a fu.
  • Cewch glywed beth sy'n dod nesaf, yn 2026 a'r tu hwnt.
  • Defnyddiwch eich llais i ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a helpu i gadw'r bwrdd a'r tîm yn agored ac yn atebol.
  • Cewch ddod i gysylltiad â chymuned o artistiaid, aelodau a chefnogwyr sy'n credu y gall syrcas newid bywydau.

 

Oes angen i mi fod yn aelod?  Mae croeso i bawb yn y CCB – does dim rhaid i chi fod yn aelod, a does dim rhaid i chi dalu am ddod i'r cyfarfod.  Os hoffech chi bleidleisio ar benderfyniadau yn y cyfarfod, cewch ddewis dod yn aelod am ddim ond £5.

Ddim yn aelod eto?
Dyma beth gewch chi wrth ddod yn aelod:

  • Hawliau pleidleisio llawn yn y CCB.
  • Llais uniongyrchol yn y ffordd mae NoFit State yn esblygu.
  • Mwy o gysylltiad â'r ffordd y mae'r cwmni'n gweithio a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Yn y prynhawn y cynhelir y CCB eleni, yn dechrau am 12:30pm ac yn para dim mwy na dwy awr. Bydd cyfle i barhau â'r sgwrs yn y dafarn wedyn os dymunwch.  Darperir bwffe ysgafn, ac mae croeso mawr i blant.

Mae'ch presenoldeb wir yn gwneud gwahaniaeth.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.

Tîm NoFit State

Lawrlwythwch agenda’r CCB yma

Lawrlwythwch gofnodion CCB 2024 yma

Archebwch Nawr