Gwahoddiad i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Pharti 2024
Nos Wener 21 Chwefror 2025, 5:30pm – 11:00pm
NoFit State Community Circus, Four Elms, Four Elms Road, Caerdydd CF24 1LE
Caiff ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ei ddilyn gan barti NoFit State, gyda cabaret syrcas gymunedol, cherddoriaeth a bar.
CCB o 5:30pm ymlaen
Cynhelir y CCB bob blwyddyn, a dyma pryd rydym yn rhoi gwybod i’n haelodau beth rydym wedi bod yn ei wneud a beth yw ein cynlluniau.
Yn y cyfarfod, caiff ein cyfrifon blynyddol eu cyflwyno a’u cadarnhau, ac mae cyfle i’r aelodau astudio’r dogfennau a gofyn cwestiynau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r staff.
Bydd angen i chi fod yn aelod o’r cwmni i bleidleisio yn y CCB ond peidiwch â phoeni, mae ymuno’n hawdd! Dim ond £5 y flwyddyn yw Aelodaeth o’r Cwmni a gallwch ei dalu ymlaen llaw trwy gysylltu â’r Dderbynfa (02920 221 330) neu yn y CCB ei hunan.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni wrth i aelodau’r gymuned, aelodau’r cwmni a’r ymddiriedolwyr ddod ynghyd i drafod gwaith y cwmni.
Archebwch Nawr
'Cymru yn y Gwanwyn' Cabaret a Parti
o 7:00pm tan 11:00pm
Ar ôl y CCB rydyn ni’n cael parti! Bydd perfformiadau cabaret syrcas gan aelodau ein cymuned a cherddoriaeth tan yn hwyr.
Bydd gennym far, byrbrydau, ac mae croeso i chi ddod â’ch diodydd eich hunan hefyd os dymunwch.
Mae gwahoddiad i chi ymuno â ni yn y CCB neu’r parti, neu’r ddau!
Byddai’n braf eich gweld chi yno.
Nid oes angen tocynnau ar gyfer y Cabaret Gwanwyn!