Gwybodaeth Hygyrchedd
Mae hon yn ŵyl gymunedol gynhwysol a drefnir gan ac ar gyfer pobl Adamsdown, Sblot a Thremorfa. Mae’r ŵyl yn ofod diogel, lle mae croeso i bawb, o bob oed, i ddod at ei gilydd a dathlu cadernid cymuned ac undod.
Gwybodaeth a chymorth
Mae safleoedd gwybodaeth, plant coll a chymorth cyntaf ger y prif lwyfan.
Bydd tîm mawr o stiwardiaid a staff NoFit State wrth law i helpu os bydd angen cymorth neu wybodaeth arnoch. Gallwch adnabod y stiwardiaid a'r staff wrth eu crysau-t gwyn â logo Cymuned NoFit State a'r gair Tîm/Team ar y cefn, a'u henw ar lanyard oren.
Os bydd rhywun neu rywbeth yn gwneud i chi deimlo'n ddigroeso neu'n anniogel yn yr ŵyl, rhowch wybod i aelod o'r staff ac fe wnawn ni gymryd y camau priodol.
Llesiant
Bydd Portaloos ar y safle gyda thoiled i bobl anabl a lle i newid babanod. Bydd dŵr yfed am ddim. Fe welwch chi bwynt dŵr yn y parc.
Bydd stondinau bwyd yn y parc, yn gwerthu bwyd a diod am brisiau rhesymol.
Mae croeso i chi ddod â phicnic ac mae gwahanol fwydydd ar werth yn Stryd Clifton, tua 5 munud o waith cerdded o Gaeau Anderson.
Defnyddio Cadair Olwyn
Mae 6 allanfa a mynedfa o amgylch y parc. Y prif fynedfeydd o Constellation Street sydd orau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llwybrau tarmac ym mhrif barc Caeau Anderson.
Bydd lle ar gyfer cadeiriau olwyn yn agos at y prif lwyfan. Bydd sawl man picnic gyda byrddau a meinciau, a seddi o amgylch y parc.
*Mae'r map yn dangos mannau parcio ar gyfer pobl anabl a lleoliad cyrbiau isel.
Cymuned pobl F/fyddar
Bydd gennym gyfieithydd BSL ar y prif lwyfan. Bydd man cyfarfod ar gyfer y gymuned pobl F/fyddar gyda Deaf Hub yn un o ardaloedd picnic y parc – ewch i gyfeiriad y baneri glas a melyn â symbol y gymuned Fyddar.
Y Rhaglen
Mae’r rhaglen yn cynnwys pob math o bethau er mwyn apelio at bob oed, chwaeth a diddordeb. Bydd cyfle i weld perfformiadau gweledol a cherddorol amrywiol ac arlwy diwylliannol o wahanol wledydd; bydd gweithgareddau creadigol yn y babell fawr; cyfle i roi cynnig ar syrcas; a bydd mannau chwarae pwrpasol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth am hygyrchedd, cysylltwch â Thîm Derbynfa NoFit State ar 02920 22 1330 neu [email protected]
Sut wnaethon ni?
Rydym bob amser yn awyddus i ddysgu a gwella. Rhowch wybod i ni sut wnaethon ni ac a oes rhywbeth y gallem ei wneud i wella hygyrchedd yn y digwyddiad nesaf. Anfonwch eich adborth at Valentina Solari (Cynhyrchydd y Digwyddiad) [email protected]