Mae sioe arloesol ddiweddaraf NoFit State, BAMBOO, yn ffordd ardderchog o ddangos ein hymrwymiad i wneud penderfyniadau strategol moesegol ynghylch ble a sut i greu, perfformio ac ymgysylltu. Ond beth arall sy’n digwydd ar y llwyfan ac oddi arno i ddangos ein hymrwymiad i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Teithiau'r Big Top
Trwy uwchraddio ein cerbydau i safonau EURO 6 yn ystod 2022 a 2023 a thrwy ad-drefnu ein cynlluniau trafnidiaeth, rydym wedi llwyddo i deithio 30% yn llai o filltiroedd ar daith heb gwtogi ar y rhaglen deithiau. Trwy fuddsoddi mewn cerbydau ychwanegol bu gostyngiad sylweddol yn nifer teithiau dwyffordd y fflyd.
Caiff y safle ei bweru gan generaduron diesel. Yn y gorffennol, câi'r generaduron eu troi ymlaen am 8am a byddent yn rhedeg yn barhaus tan tua hanner nos. Yn ystod 2023, cyflwynwyd system newydd â mesuryddion clyfar ar rwydwaith trydan y safle i fesur faint o drydan a ddefnyddir ar wahanol rannau o’r safle ar wahanol adegau o’r dydd a’r nos. Ar sail y data hyn, treialwyd system fatris ar y safle ar daith y DU 2024 gan ddefnyddio offer ar rent. Mae'r defnydd a wneir o drydan yn amrywio'n sylweddol bob dydd yn dibynnu beth sy'n digwydd. Yn gynnar yn y bore ac yn hwyr y nos pan fydd y cawodydd a'r peiriannau golchi'n brysur ac yn ystod y perfformiadau, defnyddir llawer o bŵer. Ar adegau eraill mae'r defnydd o bŵer yn gymharol isel.
Roedd y batris rhent a gyflwynwyd yn 2024 yn cael eu gwefru gan y generaduron ar gyfnodau pan ddefnyddid llawer o drydan. Ar gyfnodau pan oedd llai o drydan yn cael ei ddefnyddio, câi'r generaduron eu diffodd a châi'r safle cyfan ei bweru gan y batris.
Dangosodd y cynllun peilot fod cyfanswm y tanwydd a ddefnyddid ar y safle wedi gostwng 50% ar ôl cyflwyno'r system fatris. Mae hyn yn cyfateb i ostyngiad o 29,145 tunnell o CO2 y flwyddyn.