Mae'r swydd hon yn golygu teithio gyda chwmni CARNATION gyda Big Top sy’n dal cynulleidfa o 700, a charafannau. Rydyn ni'n byw ac yn teithio gyda'n gilydd, yn gweithio'n galed ac yn mwynhau bywyd. Rydyn ni eisiau i'r bobl sy'n ymuno â ni fod yn rhai sy’n taflu eu hunain i’n ffordd ni o fyw.
Rydym yn ystyried y rôl hon fel rhan o’n criw teithio a’n tîm cynhyrchu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adrodd yn uniongyrchol wrth y Rheolwr Technegol ond bydd yn gweithio gydag adrannau eraill hefyd: rigio, criw safleoedd a rheoli llwyfan. Mae'n swydd ymarferol sy'n gofyn am rywun sy'n frwd dros wneud i bethau ddigwydd a bod yn rhan o gynyrchiadau syfrdanol.
Prif Gyfrifoldebau:
Technegol:
• Cydweithio â'r Rheolwr Technegol gan chwarae rhan flaenllaw mewn get-ins, gwaith cynnal a chadw a chlirio'r safleoedd. Gwneud elfennau o waith rigio offer LX, SFX ac AV yn ddiogel
• Gallu gweithio offer LX/SFX/AV yn ystod perfformiadau os oes angen a bod yn rhan o'r tîm stiwardio yn ystod amserau sioeau fel arall
• Bod yn rhan o'r tîm technegol sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw ac yn archwilio'r offer technegol ar y ddaear ac wedi'u rigio yn yr awyr, gan roi gwybod i'r Rheolwr Technegol am unrhyw broblemau
• Helpu i atgyweirio offer technegol yn ôl yr angen, boed hynny yn ystod y diwrnod gwaith neu ar frys yn ystod perfformiad
• Unrhyw ddyletswyddau eraill y bydd y Rheolwr Technegol a Rheolwyr y Cynhyrchiad yn gofyn yn rhesymol amdanynt
Y Safle a’r Criw
• Cofnodi problemau ag unrhyw systemau yn brydlon a rhoi gwybod i'r Pennaeth Adran perthnasol amdanynt
• Mynychu cyfarfodydd rheolaidd y criw, gan sôn am unrhyw dasgau a materion sy'n codi o ran gwaith yr adran dechnegol
• Bod yn rhan o dîm cyffredinol y criw, gan helpu a chefnogi eraill pan fydd eich rhestr dasgau chi'n ysgafnach
• Cydweithio â'r Rheolwr Technegol, y Prif Rigiwr a Goruchwyliwr y Babell i'w helpu â'u llwythi gwaith a helpu i oruchwylio gwaith monitro a chynnal a chadw parhaus y babell, y safle, y rigio a'r offer
• Cyfrannu at bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gynnig eitemau perthnasol i'r banc sy'n cael ei redeg gan yr Adran Farchnata yng Nghaerdydd
Er mwyn ymgeisio, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i [email protected] erbyn 1 Mawrth 2026.
NoFit State yw’r cwmni teithiol mwyaf yn y Deyrnas Unedig ym myd syrcas gyfoes. Bob blwyddyn, mae Nofit State yn mynd â dau neu dri chynhyrchiad ar daith yn ei Big Top ei hunan, i theatrau, ac i safleoedd awyr-agored ledled y DU a thramor. Yng nghanolfan y cwmni yng Nghaerdydd, cynhelir rhaglen o ddosbarthiadau a phrosiectau proffesiynol a chymunedol trwy gydol y flwyddyn a darperir cyfleusterau ar gyfer llawer o artistiaid annibynnol a chwmnïau sy’n ymweld.
Mae Nofit State yn sefydliad creadigol, deinamig sy’n ffynnu wrth wynebu heriau ac sydd bob amser yn ceisio dysgu a gwella ym mhopeth a wnawn. Cawn ein hysbrydoli gan y pethau y gall pobl gyffredin eu cyflawni ac rydym yn dathlu’r nerth a ddaw i'r gymuned wrth fyw bywyd teithiol traddodiadol y syrcas.
Ein gweledigaeth:
• Fe wnawn ni greu gwaith gwych
• Fe wnawn ni ysbrydoli teyrngarwch ac angerdd
• Fe wnawn ni newid bywydau pobl
• Fe wnawn ni droedio’n ysgafn ar y ddaear
• Fe fyddwn ni’n gwmni gwir gynaliadwy
• Fe fyddwn ni’n rhan hanfodol o sector byrlymus ac egnïol
Yng Nghymru y mae gwreiddiau NoFit State Circus ac mae’n cynnig:
• Cynyrchiadau proffesiynol canolig eu maint a mawr sy'n mynd ar daith ledled y DU a thramor
• Rhaglen gymunedol a rhaglen ddysgu helaeth
• Rhaglen datblygiad proffesiynol i helpu i groesi’r bont rhwng cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a hyfforddiant proffesiynol a rhwng hyfforddiant proffesiynol a swydd.