Neidio i'r prif gynnwys
2026_04_MJR_carnation-sun_0544-web.jpg

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Rydym yn chwilio am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu greddfol a deinamig i ymuno â'n tîm prysur.

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Rydym yn chwilio am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu greddfol a deinamig i ymuno â'n tîm prysur.

Mae NoFit State yn gwmni syrcas gyfoes sydd ag enw da yn rhyngwladol.Bob blwyddyn, mae’r cwmni’n mynd â chynyrchiadau ar daith yn ei Babell Fawr ac yn perfformio mewn theatrau a safleoedd awyr-agored ledled Prydain a thramor. Yng nghartref y cwmni yng Nghaerdydd, cynhelir rhaglen o ddosbarthiadau a phrosiectau proffesiynol a chymunedol trwy gydol y flwyddyn a darperir cyfleusterau ar gyfer nifer o gwmnïau ac artistiaid annibynnol sy’n ymweld. 

Mae'r cwmni'n edrych ymlaen at gyfnod o ymweliadau, ymgyrchoedd, newyddion a digwyddiadau cyffrous. A chithau'n Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, mae gennych waith pwysig yn cryfhau a meithrin enw da’r cwmni a’i broffil. Bydd gofyn i chi sicrhau hefyd bod pob rhan o’r rhaglen yn cyrraedd targedau presenoldeb a chyfranogiad trwy ddatgan pwy ydym a beth rydym yn ei wneud a thrwy hyrwyddo ein gwaith ar draws pob platfform. 

Ymunwch â ni!

Disgrifiad o'r Swydd

 

Oriau Gwaith: Swydd lawn amser

Cyflog: £26,470

Lleoliad: Caerdydd

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12pm, dydd Llun 9 Tachwedd 2026

 

Darllenwch y Disgrifiad o'r Swydd sy'n atodedig i ganfod manylion pellach am y rôl. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal.  Anfonwch eich ceisiadau at [email protected] [email protected]

 

Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.

https://www.nofitstate.org/gyrfaoedd

 

cyflogwr cyfleoedd cyfartal

Mae NoFit State yn ymdrechu i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â [email protected]

 

Oriau Gwaith: Swydd lawn amser

Cyflog: £26,470

Lleoliad: Caerdydd

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12pm, dydd Llun 9 Tachwedd 2026

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×