Rheolwr Datblygu
Mae NoFit State Circus yn chwilio am Reolwr Datblygu brwd, uchelgeisiol a threfnus sydd ag angerdd gwirioneddol dros y celfyddydau a'n gwaith ni.
Rhaid i chi fod yn un ardderchog am adeiladu a meithrin perthnasoedd, yn gallu meddwl yn y tymor hir ac yn strategol, ac addasu i anghenion amrywiol y byd cyfnewidiol o'n cwmpas.
NoFit State yw’r mwyaf o gwmnïau syrcas gyfoes y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn, rydym yn dod i gysylltiad â rhwng 120,000 a 150,000 o bobl o bob oedran a chefndir ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill – mae gennych chi a'n cefnogwyr ran hanfodol i'w chwarae yn sicrhau eu bod yn llwyddo, ac ni fu erioed gwell amser i ymuno â ni a bod yn rhan o hynny.
Oriau Gwaith: Swydd lawn amser
Key dates
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am, dydd Iau 25 Ebrill 2024
Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau ar 29 Ebrill
Syniad o’r dyddiad dechrau: Mis Mehefin
Cyflog cychwynnol: £30,000 - £40,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad