Neidio i'r prif gynnwys
SABOTAGE-2022_04_MJR_sabotage-sat2_1079-compressed.jpg

Galwad am gast ar gyfer sioe newydd

Gair am y prosiect 

Caiff y sioe ei chyfarwyddo gan Firenza Guidi mewn ffurf ac arddull tebyg i SABOTAGE

Er mai yn 2026 y bydd y broses greu yn dechrau, bwriadwn gynnal labordai castio a chyfnod preswyl creadigol am wythnos ym mis Ebrill 2025, a phythefnos arall o ymchwil a datblygu yn hydref 2025.

Yn y gwanwyn 2026 cynhelir cyfnod creu o 6 wythnos a bydd y sioe yn agor tua'r Pasg, cyn teithio o gwmpas y Deyrnas Unedig ac Ewrop tan y mis Medi.

I ddechrau, dim ond am y tymor cyntaf y gallwn gynnig contract ond mae'n arferol i gynyrchiadau NoFit State fynd ar daith am tua 6 mis bob blwyddyn am dair neu bedair blynedd.  Er nad yw hynny’n sicr, ein gobaith yw y bydd ymgeiswyr yn dymuno aros gyda ni tan ddiwedd y sioe.

Gair am y sioe 

Caiff ein cynhyrchiad newydd ei ysbrydoli gan straeon am gymdeithasau dystopaidd a sut y mae hynny'n canu cloch gyda ni heddiw mewn byd o anghydraddoldeb ac anesmwythder.   

Rydym yn awyddus i wneud mwy na dim ond addasu’r straeon hyn. Hoffem gloddio ynddynt fel ffynonellau llenyddol i roi delweddau, ysgogiadau a themâu i ni ar gyfer y cynhyrchiad.  Yn ystod ein hymchwil creadigol, byddwn yn edrych i weld sut y gallwn gymryd y straeon hyn ac elwa arnynt i greu ein naratif ein hunain i’w rannu yn ein hiaith ni sef syrcas, symud, a theatr gorfforol. 

Bwriadwn herio’r honiad bod y sefyllfa'n ddi-obaith a mynnu y gellir sicrhau gobaith trwy weithredu torfol gan arwain at newid diwylliannol er gwell.  Yn ein ffordd ein hunain, bwriadwn ddathlu effaith ymgyrchoedd poblogaidd fel Extinction Rebellion, Black Lives Matter a’r gwrth-brotestiadau gwrth-ffasgaidd a gafwyd yn ddiweddar. 

Y stori hon fydd ein man cychwyn ond wedyn daw'n is-destun mewn sioe syrcas wefreiddiol a chyffrous, doniol a llawen.  

Nid yw'n fwriad gennym bregethu, addysgu na dweud wrth ein cynulleidfaoedd beth i’w feddwl ond, yn syml, ddal drych i fyny at ein byd ôl-wirionedd, gorlawn o'r cyfryngau cymdeithasol a’u gwahodd i gwestiynu’r normal newydd gan ddangos y gallwn fod yn effeithiol a chreu newid trwy gydsefyll.

Sut i wneud cais

cam 1

Yr hyn yr hoffem ei weld:

  • Fideo anffurfiol byr ohonoch chi'n cyflwyno'ch hunan ac yn adrodd eich stori.   
  •  Fideo, dim mwy na 5 munud, yn dangos eich sgiliau ar eu gorau.
  • Gallwch gynnwys CV a llythyr cais hefyd (dim mwy na 500 gair).
  • Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw sgiliau eilaidd neu sgiliau cerddorol sydd gennych.

Rhowch wybod i ni os oes gennych anghenion hygyrchedd (access) a/neu os oes angen i ni wneud addasiadau i'r broses ymgeisio.  Cysylltwch â ni a byddwn yn barod iawn i'ch cefnogi.  

Cadwch eich cyflwyniad cychwynnol yn fyr ac yn ddifyr a gofalwch ei fod yn cyflwyno'ch cymeriad arbennig chi a'ch set sgiliau.

Dylid anfon ceisiadau i [email protected]

cam 2

Galwad Zoom i ddod i'ch nabod yn well ac i roi mwy o wybodaeth i chi am y prosiect a'r cwmni.

cam 3

Gwahoddir artistiaid neu grwpiau i ddod i un o gyfres o labordai castio ym mis Ebrill 2025 lle byddwn yn archwilio gwahanol setiau sgiliau a’r cyfleoedd a gynigiant, ac yn dechrau archwilio rhai o’r themâu a’r syniadau.

Telir costau a darperir bwyd a llety.

cam 4

Labordy castio, wythnos o hyd, i edrych yn fanwl ar gydweithio ac adeiladu ensemble; a chloddio'n ddyfnach i'r themâu a'r syniadau. Byddwn yn talu ffi am gymryd rhan.

Erbyn diwedd y broses hon, gobeithio y bydd gennym gwmni y gallwn ei wahodd yn ôl ar gyfer y broses ymchwil a datblygu lawn yn yr hydref.

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn mynd ar daith yn y dull traddodiadol, gyda'r cwmni cyfan yn byw mewn tryciau, trelars a charafanau. Mae pawb yn helpu i osod y babell a pharatoi i agor.  Mae gennym ein gwasanaeth arlwyo ein hunain ac rydym yn byw ac yn teithio fel cymuned.

NA.  Gallwn ddarparu ystafell mewn wagen bynciau – sy ddim cynddrwg ag mae'n swnio!

DYLECH. Cyn belled â'ch bod yn frwd, yn ymroddedig ac yn gallu dangos potensial mawr, fe wnawn ni gydweithio â chi i ddatblygu eich sgiliau perfformio.

DYLECH.  Esboniwch eich sefyllfa o'r dechrau am unrhyw anghenion hygyrchedd ac fe wnawn ni'n gorau i'w hwyluso.

Er bod gennym lawer o syniadau, caiff y sioe ei datblygu mewn partneriaeth â’r cast a daw'r cynnwys i’r amlwg trwy’r broses greadigol.  

Sioe ensemble fydd hi ac nid y gair llafar fydd flaenaf ynddi.

Bydd yn sioe lawen a dyrchafol ond gydag islais gwrthsefydliadol a chydwybod gymdeithasol.

Rydym wedi cael cannoedd o geisiadau ac rydym wrthi'n gweithio'n ffordd trwyddynt er mwyn tynnu rhestr fer. 

Byddwn yn cysylltu â'r ymgeiswyr i gyd erbyn canol Mawrth.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×