perfformiwr syrcas
Mae NoFit State yn chwilio am berfformiwr syrcas doniol, egnïol a medrus iawn i ymuno â ni ar gyfer sioe BAMBOO.
Mae BAMBOO yn sioe ar gyfer yr awyr agored a mannau dan do anarferol. Hyd yma, cafodd ddau dymor llwyddiannus gyda chyfanswm o 130 o berfformiadau yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Rydym yn chwilio am berfformiwr cryf, deinamig, allan o'r cyffredin, i ymuno â'r cwmni presennol ar gyfer ein taith yn 2026.
Caiff y sioe ei chyflwyno mewn pob math o wahanol gyd-destunau ac mae angen rhywun a all gynnal ei egni trwy gydol sioe 40 munud. Bydd yn y golwg trwy'r amser; does dim unman i guddio ar lwyfan BAMBOO.
Mae clip o'r sioe i'w weld yma https://www.youtube.com/watch?v=23vaev3iISA
Dyma rai o nodweddion ein hymgeisydd delfrydol:
- Cryfder yn rhan uchaf y corff a gallu gafael yn dynn; gallu dringo, hongian a chylchdroi ar strwythurau anwastad a bambŵ o wahanol drwch. Mae'r sioe'n addas i bobl sydd â sgiliau Polyn Tsieineaidd, bowldro, twmblo, ac yn enwedig acrobateg.
- Cyfarwydd â slapstic, clownio, theatr gorfforol.
- Sgiliau unigryw a mentrus a'r chwilfrydedd i ddatblygu, creu a dal ati i archwilio pethau newydd.
- Hyderus i gymryd risg a gallu meddwl yn sydyn gan ddeall y corff a'r emosiynau yn dda.
- Parod i fyrfyfyrio ac i ddatblygu sgiliau mewn maes perfformio newydd.
- Presenoldeb mawr ar lwyfan a chael pleser o berfformio yn yr awyr agored, gan gystadlu â'r tywydd, ambiwlansys, gwylanod, y gwynt, plant yn sgrechian, ac ati…
- Gallu gwneud i bobl chwerthin yn uchel heb ddefnyddio geiriau; gallu byrfyfyrio'n ddirybudd gan swyno pobl.
- Gallu gwneud eich siâr yn yr holl dasgau sy'n codi wrth fynd ar daith i fannau awyr agored a'r holl heriau cysylltiedig ac yn barod i wneud hynny. Mae'n waith caled, ond mae'n waith gwych.
Os yw hynny'n swnio'n debyg i chi, anfonwch y pethau hyn atom:
- Fideo'n dangos enghreifftiau o'r ffyrdd rydych yn ateb y galw. Cyfanswm o ddim mwy na 6 munud.
Yn ddelfrydol, dangoswch eich sgiiau perfformio a'ch sgiliau technegol.
- Clip fideo byr, wedi'i ffilmio'ch hunan, yn eich cyflwyno chi'ch hunan i ni ac yn dweud wrthym pam mai chi yw'r person uchod a pham rydych o'r farn mai chi yw'r person mwyaf addas ar gyfer y swydd.
- Anfonwch CV hefyd yn cynnwys manylion canolwyr i roi geirda a llythyr esboniadol byr.
Os oes angen i chi/os yw'n well gennych gyflwyno'ch cais mewn fformat/ffordd wahanol, rhowch wybod i ni.
Os ydych yn anfon detholiad o ddolenni a chlipiau, gwnewch hi'n hawdd i ni'ch adnabod a gweld eich potensial yn sydyn. Ni fydd gennym yr amser na'r amynedd i bori trwy'ch Instagram cyfan.
Anfonwch y rhain at [email protected] erbyn dydd Sul 23 Tachwedd. Byddwn yn cynnal sesiynau ymholi wyneb yn wyneb naill ai ddydd Gwener, 5 Rhagfyr neu ddydd Mawrth, 16 Rhagfyr.
gwybodaeth allweddol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Sul, 23 Tachwedd 2025
Sesiynau ymholi wyneb yn wyneb: ddydd Gwener 5 Rhagfyr neu ddydd Mawrth, 16 Rhagfyr.
Lleoliad: daith amgylch y DU ac Ewrop