Mae'r swydd hon yn golygu teithio gyda chwmni CARNATION (teitl dros dro) gyda Big Top a charafannau. Rydyn ni'n byw ac yn teithio gyda'n gilydd, yn gweithio'n galed ac yn mwynhau bywyd. Rydyn ni eisiau i'r bobl sy'n ymuno â ni fod yn rhai sy’n taflu eu hunain i’n ffordd ni o fyw.
Cyfrifoldebau:
Prif gyfrifoldebau:
- Goruchwylio gwaith rhedeg y mannau y daw'r cyhoedd iddynt, gan sicrhau bod y gwaith blaen tŷ yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel pan gynhelir sioeau
- Cydweithio â'r Rheolwr Llwyfan a'r Rheolwr Teithiau i sicrhau bod trefniadau staffio addas yn y caffi a bod gan wirfoddolwyr hyfforddiant rhesymol yn y maes lle maent yn helpu
- Sicrhau trefniadau staffio rhesymol wrth y giât fynediad a helpu i werthu tocynnau 'wrth y drws'
- Helpu'r Rheolwr Teithiau i redeg y swyddfa docynnau o ddydd i ddydd, gan ddefnyddio ein system docynnau, Spektrix
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf y tu allan i'r babell yn ystod sioeau, er mwyn bod yn llais rheswm cadarn a dibynadwy pan fo angen
- Rheoli gwaith caffael a stocio'r eitemau rydym yn eu gwerthu yn ein caffi a'n mannau gwerthu, gan edrych ymlaen bob amser i sicrhau bod gennym eitemau addas a lefelau stoc cywir
- Cydweithio â'r Cynhyrchydd Cynorthwyol i reoli'r systemau POS, cyfrif yr arian a chofnodi'r incwm bob dydd
Cyfrifoldebau eraill
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd y criw, gan sôn am unrhyw dasgau a materion sy'n codi o ran gwaith blaen tŷ
- Cyfrannu at bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gynnig eitemau perthnasol i'r banc sy'n cael ei redeg gan yr Adran Farchnata yng Nghaerdydd
- Cymryd rhan lawn yn y gwaith o baratoi'r babell a'r safle a'u clirio ar ddechrau a diwedd pob ymweliad
- Yr awydd a'r parodrwydd i dorchi llewys a gwneud beth sydd angen ei wneud i fynd ymlaen â'r daith
- Cydweithio ag eraill gan ddilyn cyfarwyddiadau a gweithio'n annibynnol, a chefnogi'r bobl sydd o'ch cwmpas
- Unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen
NoFit State yw’r cwmni teithiol mwyaf ym Mhrydain ym myd syrcas gyfoes. Bob blwyddyn, mae Nofit State yn mynd â dau neu dri chynhyrchiad ar daith yn ei Big Top ei hunan, i theatrau, ac i safleoedd awyr-agored ledled y Deyrnas Unedig a thramor. Yng nghanolfan y cwmni yng Nghaerdydd, cynhelir rhaglen o ddosbarthiadau a phrosiectau proffesiynol a chymunedol trwy gydol y flwyddyn a darperir cyfleusterau ar gyfer llawer o artistiaid annibynnol a chwmnïau sy’n ymweld.
Mae Nofit State yn sefydliad creadigol, deinamig sy’n ffynnu wrth wynebu heriau ac sydd bob amser yn ceisio dysgu a gwella ym mhopeth a wnawn. Cawn ein hysbrydoli gan y pethau y gall pobl gyffredin eu cyflawni ac rydym yn dathlu’r nerth a ddaw i'r gymuned wrth fyw bywyd teithiol traddodiadol y syrcas.
Ein gweledigaeth:
- Fe wnawn ni greu gwaith gwych
- Fe wnawn ni ysbrydoli teyrngarwch ac angerdd
- Fe wnawn ni newid bywydau pobl
- Fe wnawn ni droedio’n ysgafn ar y ddaear
- Fe fyddwn ni’n gwmni gwir gynaliadwy
- Fe fyddwn ni’n rhan hanfodol o sector byrlymus ac egnïol
Yng Nghymru y mae gwreiddiau NoFit State Circus ac mae’n cynnig:
- Cynyrchiadau proffesiynol canolig eu maint a mawr sy'n mynd ar daith ledled y Deyrnas Unedig a thramor
- Rhaglen gymunedol a rhaglen ddysgu helaeth
- Rhaglen datblygiad proffesiynol i helpu i groesi’r bont rhwng cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a hyfforddiant proffesiynol a rhwng hyfforddiant proffesiynol a swydd
Trosolwg o'r Rôl
Mae hon yn swydd deithiol, lawrydd, am gyfnod penodol.
Dyddiadau: Taith CARNATION 1 Ebrill - 25 Medi 2026
Gallai’r dyddiadau newid – rhoddir gwybod am unrhyw newid cyn gynted â phosibl
Cyflog: £600 yr wythnos
Arall: Telir costau teithio pan fydd hynny mewn perthynas â’r swydd
Darperir prydau bwyd, 1 neu 2 y dydd, yn dibynnu ar yr amserlen
Gallwn ddarparu lle mewn bunk wagon os nad oes cerbyd y gallwch fyw ynddo ar gael i chi