Galwad Agored am Griw
Mae NoFit State yn chwilio am ddau o bobl frwd ac ymarferol i ymuno â chriw taith y Big Top dros gyfnod creu a theithio ein cynhyrchiad newydd sbon ar gyfer 2026.
Rydym yn mynd â'n sioeau Big Top ar deithiau ledled Prydain a’r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn cydweithio, yn cyd-fwyta, yn cyd-fyw ac yn cyd-chwerthin gan weld y gwaith fwy fel ffordd o fyw na dim ond swydd.
Wrth baratoi'r safle a'i glirio, mae'r cwmni cyfan yn cyfrannu at godi'r Big Top a gosod/pacio pethau ac, fel arfer, mae aelodau unigol o'r criw yn arwain ar wahanol dasgau.
Yn ystod perfformiadau, mae gan bawb rôl benodol, naill ai gefn llwyfan neu flaen tŷ, yn dibynnu ar eu cryfderau ac anghenion y gwaith. Ar adegau eraill, mae aelodau'r criw yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm cynhyrchu gan ofalu am y gwaith paratoi a'r cynnal a chadw dyddiol a gofalu am y safle'n gyffredinol.
Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol:
- Nifer o sgiliau perthnasol a defnyddiol. Mae sgiliau sy’n ddefnyddiol i ni yn cynnwys:
- trwydded HGV
- sgiliau gwaith metel
- sgiliau gwaith coed
- bod â thrwydded SIA
- sgiliau LX/AV/SFX
- gwybodaeth dechnegol
- cymwysterau rigio
- profiad o waith mecanyddol (yn enwedig HGV)
- gwybodaeth am waith plymer
- cymhwyster tryc fforchgodi
- profiad blaen tŷ
- profiad o godi pebyll
- gwaith bar/lletygarwch
- Yr awydd a'r parodrwydd i dorchi llewys a gwneud beth sydd angen ei wneud i fynd ymlaen â'r daith.
- Cydweithio ag eraill gan ddilyn cyfarwyddiadau a gweithio'n annibynnol, a chefnogi'r bobl sydd o'ch cwmpas.
- Bod yn ddigon cryf a ffit i wneud gwaith corfforol yn yr awyr agored.
- Yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig a phasbort dilys y gallwch ei ddefnyddio i deithio i mewn ac allan o’r UE.
Os oes modd (ond does dim rhaid) bydd gennych gerbyd/carafan y gallwch fyw ynddo a byddwch chi’ch hunan yn gallu ei symud i bob safle. Os nad yw rhywun yn gallu gwneud hyn, mae gennym le mewn bunk wagons.
Gall bywyd y Syrcas fod yn waith caled ac nid yw bob amser yn glamorous, ond mae'n dod â boddhad enfawr ac mae'n ffordd ddymunol o fyw.
Os yw hyn yn swnio fel chi, anfonwch:
- CV yn cynnwys manylion canolwyr a
- Llythyr eglurhaol byr.
Os oes angen i chi/os yw'n well gennych gyflwyno'ch cais mewn fformat/ffordd wahanol, rhowch wybod i ni.
Anfonwch y rhain at [email protected] gyda ‘Crew Application’ yn y llinell bwnc erbyn dydd Gwener 6 Chwefror 2026.
Byddwn yn cysylltu â phobl yn ystod wythnos gyntaf Chwefror i drefnu amserau cyfweliadau.
Gwybodaeth allweddol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 22 Chwefror 2026
Lleoliad: Teithio’r Deyrnas Unedig ac Ewrop
Dyddiadau’r Daith: 23 Chwefror 2026 tan 30 Medi 2026
cyflogwr cyfleoedd cyfartal
Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â [email protected]
Mae NoFit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Ar hyn o bryd, nid oes gan bobl anabl, B/byddar a/neu niwrowahanol, pobl o gefndiroedd sy’n fwyafrif byd-eang na phobl o dan 30 gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ac felly rydym yn annog pobl o’r grwpiau hyn, yn neilltuol, i ymgeisio.
Important Documents
Gwybodaeth allweddol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 22 Chwefror 2026
Lleoliad: Teithio’r Deyrnas Unedig ac Ewrop
Dyddiadau’r Daith: 23 Chwefror 2026 tan 30 Medi 2026