Neidio i'r prif gynnwys
young_artists_residencies_TEST_Transitions_.png

prosiect pontio: artistiaid ifanc

Anelir y rhain at rai sydd wedi dod trwy syrcas ieuenctid ac artistiaid ifanc (16-25) sy’n byw, yn astudio neu’n gweithio yng Nghymru ac sy’n dymuno cael gyrfa broffesiynol yn y syrcas

Anelir Prosiect Pontio i Artistiaid Ifanc at bobl ifanc a oedd yn arfer mynd i syrcas ieuenctid ac sy’n dymuno dilyn gyrfa broffesiynol yn y syrcas.Ei nod yw pontio’r bwlch rhwng y syrcas ieuenctid a chamau nesaf eich gyrfa.Gall hynny olygu sicrhau lle mewn ysgol syrcas ym Mhrydain, Ewrop neu y tu hwnt, neu barhau â hyfforddiant annibynnol.

15 Chwefror 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau ond byddwn yn ystyried y ceisiadau wrth fynd ymlaen.Fe wnawn ein gorau i roi gwybod i chi a fu’ch cais yn llwyddiannus ai peidio cyn pen wythnos ar ôl i chi ei gyflwyno.Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael ac felly rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch.

Os oes gennych ryw gwestiwn am y rhaglen cyn ymgeisio, cysylltwch ag Olga a yn [email protected].

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×