2021_10_MJR_sabotage_1215-web (1).jpg

Cynhyrchiad newydd sbon nofit state circus, sabotage, yn sir benfro dros y pasg

Sabotage |

Mae prif gwmni syrcas Cymru, NoFit State, yn ôl â sioe fawr newydd sbon yn eu Big Top. Cynhelir perfformiadau cyntaf SABOTAGE rhwng 8 a 23 Ebrill 2022 ar Faes Sioe Sir Benfro yn Hwlffordd.

Yr un tîm creadigol arbennig sy’n gyfrifol am SABOTAGE ag a ddatblygodd LEXICON, BIANCO, ImMortal a tabu. Bydd cynulleidfaoedd y gorllewin yn cofio cael eu syfrdanu gan berfformiadau diwethaf NoFit State o LEXICON yn Arberth yn 2019. Gyda SABOTAGE, gallant ddisgwyl sbloet fawr, wych, ond bod iddi ochr dywyllach, fwy garw.

It will be so good to be on the road again with our all new show after all this time. We always love coming to West Wales where the audiences are so welcoming and appreciative.

Stand by for some surprises and some sensational new acts.

SABOTAGE will have all the usual trappings of our signature style, high energy, good fun, breath-taking Circus and spectacular images but poignant, meaningful and theatrical as well.
Tom Rack, Artistic Director, NoFit State Circus

Mae gan SABOTAGE gast rhyngwladol eithriadol, gyda pherfformwyr o bell ac agos – Albania, Iwerddon, Brasil a Chymru. Ymhlith eu sgiliau syrcas rhyfeddol mae awyrgampau â sidanau, brecddawnsio, trapîs deuol, acrobateg, hwla hwpio, llinell lac, strapiau, a llawer mwy.

Ar ôl y cyfyngiadau byd-eang ar deithio a pherfformio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae NoFit State yn arbennig o awyddus i gyflwyno’u cynhyrchiad newydd egnïol a chwyldroadol i gynulleidfaoedd, gan gychwyn y daith gartref yng Nghymru. Ar ôl agor yn Hwlffordd dros y Pasg, byddant yn parhau â’r daith i Ferthyr, Bangor, Caerdydd a dau le yn Lloegr. Disgwylir i ragor o ddyddiadau gael y cyhoeddi yn fuan.

Swyddfa Docynnau

02921 321 021 / www.nofitstate.org/sabotage

 

 

Perfformiadau 8 Ebrill – 23 Ebrill

Prynhawniau 2.30pm neu 4pm
Nosweithiau 7.30pm
Mae’r manylion llawn ar dudalen y sioe.

 

Cyfeiriad y Perfformiadau:

Maes Sioe Sir Benfro, Heol Llwynhelyg, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4BW

Nid oes dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.

 

Crëwyd gan
NoFit State Circus

Cyfarwyddwr
Firenza Guidi

 

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England a Sefydliad Garfield Weston.