Sabotage_-_Merthyr_announce_-tiny.png

Cyhoeddi dyddiadau taith sabotage ym merthyr

Sabotage |

Ar ôl agor yn Sir Benfro, bydd cynhyrchiad newydd NoFit State, SABOTAGE, yn parhau â thaith 2022 ym Merthyr Tudful, yr ail o bedwar lleoliad yng Nghymru eleni. Gyda dim ond 10 diwrnod o berfformiadau, peidiwch â cholli’r cyfle i weld sioe Big Top ddiweddaraf Nofit State tra bydd ym Merthyr! Mae tocynnau BARGEN GYNNAR ar gael nawr.

Codir y Big Top yng Nghae Pandy ar dir Castell Cyfarthfa. Cynhelir perfformiadau prynhawn a gyda’r nos rhwng 5 a 15 Mai, gyda Theatr Soar yn bartner cyflwyno.

Dyma sioe syrcas fawr ysblennydd ac iddi naws dywyll a garw. Mae SABOTAGE yn dwyn ynghyd gast anhygoel sydd â sgiliau syrcas rhyfeddol yn cynnwys awyrgampau â sidanau, brecddawnsio, trapîs deuol, acrobateg, hwla hwpio, llinell lac, strapiau, a llawer mwy.

Ar ôl Merthyr Tudful, caiff SABOTAGE ei pherfformio ym Mangor cyn croesi’r ffin i Loegr ac yna ddod yn ôl i orffen y daith yng Nghaerdydd. Cyhoeddir rhagor o fanylion cyn hir.

Y Swyddfa Docynnau
01685 722176 (dwyieithog) / https://www.nofitstate.org/cy/shows/sabotage/merthyr 

 

BARGEN GYNNAR

Archebwch nawr a chael 20% oddi ar bris eich tocynnau â chod arbennig y FARGEN GYNNAR: “EarlyMerthyr” neu, ar gyfer tocynnau teulu, defnyddiwch “EarlyMFamily”. Daw’r cynnig i ben ddydd Sul 10 Ebrill.

 

Nid oes dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.

 

Crëwyd ganNoFit State Circus

Cyfarwyddwr Firenza Guidi

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England a Sefydliad Garfield Weston.