Frame Rowan, Angharad, Val.jpg

Stryd Clifton - angen gwirfoddolwyr!!

Newyddion | Cymuned | Clifton Street Festival | Volunteering |

Mae arnom angen gwirfoddolwyr ar gyfer digwyddiad ar ddydd Sadwrn 29 Awst yn Nwyrain Caerdydd!

Eleni, rydym yn mynd yn ôl i Stryd Clifton am ddiwrnod o hwyl gyda miwsig, syrcas, stondinau, chwarae a mwy.

 

dydd sadwrn 29 Awst 2026

 

Bydd y digwyddiad ymlaen rhwng 12pm a 4pm a bydd parêds am 12pm a 3pm. Bydd angen stiwardio heolydd a fydd wedi cau hefyd, ond byddwch yn cael eich symud o gwmpas er mwyn cael blas ar bopeth! 

Stryd Clifton 2026 – Mae Yn Ôl i’r Stryd yn ddigwyddiad celfyddydol cymunedol i ddathlu cymunedau Sblot, Adamsdown, Tremorfa, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a phobl sy’n byw mewn llety â chymorth. Trwy brosiect y Siôl Unedig, gweithgareddau gan grwpiau lleol, a chorau a bandiau, byddwn yn creu diwrnod gwych i deuluoedd yn yr ardal leol.

Os byddwch yn wirfoddolwr, cewch:

  • Helpu i osod safle'r digwyddiad a phacio wedyn
  • Rhoi help llaw mewn gweithgareddau celf a chrefft
  • Helpu i reoli'r dyrfa ac i reoli'r llwyfan ar gyfer perfformadau
  • Stiwardio yn ein parêd i lawr Stryd Clifton
  • Rhoi cymorth yn y lle gweithgareddau ieuenctid

 

Trwy wirfoddoli cewch fod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol anhygoel a chael profiad ymarferol o'r celfyddydau creadigol.

Bydd y gwirfoddolwyr yn gweithio mewn timau ac yn gwneud shifftiau ar y diwrnod. Os bydd arnoch angen cymorth i gymryd rhan, rhowch wybod i ni.

 

Llanwch y ffurflen hon i gofrestru:

CLIFTON ST 2026 29TH SAT AUGUST- Volunteer Information Form – Fill in form

Os hoffech wybod rhagor ebostiwch [email protected] neu ffonio 02920 221330 a gofyn am gael siarad ag aelod o'r Tîm Cymunedol.