Cynorthwyydd Datblygu
Ymunwch â phrif gwmni syrcas gyfoes Prydain a helpu i greu profiadau rhyfeddol sy'n newid bywydau.
Rydyn ni yn NoFit State Circus yn credu yng ngallu pobl gyffredin i wneud pethau allan o'r cyffredin, ac rydyn ni'n chwilio am Gynorthwyydd Datblygu brwdfrydig i hybu ein gwaith codi arian, ein partneriaethau a'n huchelgais i dyfu.
Dyma gyfle cyffrous i rywun brwd a threfnus sy'n angerddol am y celfyddydau ac yn awyddus i adeiladu gyrfa ym maes datblygu a chodi arian. Byddwch yn cydweithio'n agos â'r Rheolwr Datblygu, gan helpu i sicrhau'r cyllid hanfodol, meithrin perthnasoedd ystyrlon â chefnogwyr, noddwyr a rhoddwyr, a chyfrannu at ddigwyddiadau arbennig sy'n cryfhau ein cymuned.
Yn ogystal, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn gwaith ymchwilio, adrodd, cyfathrebu a rheoli data, gan helpu i ddangos effaith ein gwaith ledled Cymru a'r tu hwnt. Os ydych chi'n mwynhau cydweithio, yn ffynnu mewn amgylchedd creadigol ac eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn trwy'r celfyddydau, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Ymunwch â ni!
Oriau Gwaith: Swydd lawn amser
Cyflog: £28,000 - £30,000
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am, dydd Iau 22 Hydref 2026
Llanwch y ffurflen gais a’r ffurflen Cyfle Cyfartal sydd ynghlwm ac ebostio’r ddwy gyda CV a llythyr yn amlinellu pam yr ydych yn addas ar gyfer y swydd i [email protected]
Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo'n llawn, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.
cyflogwr cyfleoedd cyfartal
Mae NoFit State yn ymdrechu i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â [email protected]
Oriau Gwaith: Swydd lawn amser
Cyflog: £28,000 - £30,000
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am, dydd Iau 22 Hydref