Orit Azaz

Orit Azaz

Cyfarwyddwr Artistig Gwadd | Tîm Craidd

Mae Orit yn gyfarwyddwr artistig, yn hwylusydd ac yn feddyliwr creadigol.  Mae ganddi brofiad o ddyfeisio a chyfarwyddo perfformiadau a digwyddiadau mawr; creu cyd-destunau newydd ar gyfer cydweithio rhwng artistiaid a chymunedau; a hwyluso ymholi creadigol a datblygu ffurfiau ar gelfyddyd.  

Cyfarfu Orit â NoFit State am y tro cyntaf yn 1996. Bryd hynny, roedd ganddi ddiddordeb mewn creu profiadau promenâd amgylchol ar gyfer cynulleidfaoedd mewn lleoedd, cyd-destunau a chymunedau anarferol; a phlethu gwahanol gelfyddydau a chyfryngau i greu iaith theatr newydd. Roedd gan Orit a NoFit lawer yn gyffredin ac maent wedi cydweithio byth ers hynny, mewn sawl ffordd.  Fel cydweithredwr creadigol, Orit oedd cyfarwyddwr trioleg Stepping Stones (1997 – 2002); a bu'n gyfarwyddwr artistig cyfnod newydd o waith awyr-agored ar raddfa fawr (2009 – 2015) yn cynnwys Parklife, Barricade, Taking the Air ac Open House.  O ran strategaeth a gweledigaeth y cwmni, roedd Orit yn rhan o dîm datblygu'r cwmni rhwng 1998 a 2002, bu'n aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr o 2004 ac yn Gadeirydd rhwng 2006 a 2008. Mae hefyd wedi cefnogi datblygiad creadigol a phrosesau gwerthuso.

Ar yr un pryd, bu Orit yn gweithio ar brosiectau eraill amrywiol, mawr a bach, yn cynnwys: cyfarwyddwr creadigol Portrait of a Nation, ar gyfer Liverpool Culture Company a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, sef penllanw blwyddyn Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008; cyfarwyddwr Window Dressing gyda'r Windows Collective; cyfarwyddwr The Clock Strikes 20 ar gyfer Pifpaf; ac, yn fwyaf diweddar, cyfarwyddwr artistig Something Good fel rhan o ddathliadau 300 mlwyddiant Cadeirlan Birmingham yn 2015.

Mae Orit Azaz yn pleidio achos cymuned y syrcas a chelfyddydau awyr-agored yn y Deyrnas Unedig, gan hwyluso sgyrsiau creadigol, labordai a chynadleddau, yn cynnwys rhai ar gyfer Circus Futures, Independent Street Arts Network (ISAN UK), Arts Connect West Midlands, mac Birmingham a Creative Shift.