Lizzy Ferguson

Lizzy Ferguson

Gweinyddwr y Cwmni | Tîm Craidd

Ymunodd Lizzy â NoFit State fel Gweinyddwr y Cwmni ym mis Awst 2015, ar ôl gweithio yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden am flynyddoedd lawer. Tra oedd hi yno, cymerodd ran yn y rhaglen Step Change gyda Crying Out Loud. Agorodd hynny ei llygaid i fyd rhyfeddol syrcas, perfformio cyfoes a chynhyrchu.

Pan symudodd i Gaerdydd, daeth ar draws NFS a meddwl y byddai'n braf cael gweithio gyda nhw – pob peth sy'n apelio ati mewn swydd – a dyma hi! Hyd yn oed cyn iddi ddechrau yn NoFit, roedd wedi gwirioni ar BIANCO, roedd hi wedi gweld a chymryd rhan yn Open House gyda babi 5 mis oed wedi'i strapio o'i blaen, a heb iddi sylweddoli hynny roedd wedi gweld Immortal yn Llundain dros ddegawd ynghynt. Mae wrth ei bodd o gael bod yn rhan o NoFit ac ers bod yma mae wedi synnu ei hun â'i dawn i hwla-hwpio a'n synnu ninnau â’i hacen white-van-man.

Gwybodaeth Cyswllt

Rhif Ffôn
  02920 221330
Email Address
  [email protected]