Rebecca Davies

Rebecca Davies

Rheolwr Teithiau | Tîm Craidd Tîm Cynhyrchu

Ymunodd Becca â NoFit State yn 2015 ar leoliad profiad gwaith yn nhîm cynhyrchu BIANCO. Erbyn hyn, hi yw Rheolwr Taith SABOTAGE ac mae'n goruchwylio'r cwmni teithiol sy'n teithio'r byd â'i big top. Hi hefyd sy'n rheoli'r Swyddfa Docynnau a gwaith Blaen Tŷ.

Dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r cwmni, bu Becca'n gweithio ar amryw o sioeau a phrosiectau yn cynnwys BIANCO, BLOCK, LEXICON a SABOTAGE ynghyd â phrosiect cymunedol Bryn Aber, sioe agoriadol Gŵyl LetniLetna ym Mhrâg, y Sblash Mawr yng Nghasnewydd a gweithdai syrcas i blant yn yr Almaen.

Treuliodd ei hamser gyda’r cwmni yn gwneud tipyn o bopeth ar sioeau a digwyddiadau, o reoli’r cyllid i gynllunio logisteg teithio, i weithio tu ôl i’r bar mewn sioeau. Mae wrth ei bodd â phob rhan o fywyd y syrcas deithiol.

Gwybodaeth Cyswllt

Rhif Ffôn
  02921 321008
Email Address
  [email protected]