Alison Woods

Alison Woods

Cyfarwyddwr Gweithredol | Tîm Craidd

O ganolbarth Cymru y daw Alison yn wreiddiol a threuliodd y 25 mlynedd ddiwethaf yn gweithio gyda nifer o gwmnïau a sefydliadau, yn amrywio o Narodno Pozoriste Subotica i Brith Gof i’r Boilerhouse Project.

Daeth ar draws NoFit State gyntaf tua diwedd y ’90au pan fu'n gynhyrchydd ar un o sioeau cymunedol mawr cyntaf y cwmni – Prophecy. Yna, treuliodd rai blynyddoedd ar Fwrdd y cwmni cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol llawn-amser yn 2006.

Ers hynny, mae wedi gweld y cwmni'n tyfu ac yn datblygu, gan symud i'w gartref parhaol cyntaf – Four Elms.

Ei nod yw helpu NoFit State i ddod yn gwmni gwir gynaliadwy sy'n rhyddhau'r ysbryd creadigol ac yn ysbrydoli pobl gyffredin i wneud pethau rhyfeddol.

Yn fwy na dim, mae'n hynod falch o'i merch sy'n nyrs mewn ysbyty eithriadol o brysur – yn gwneud mwy mewn diwrnod i wneud y byd yn lle gwell nag y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei gyflawni mewn oes.

Gwybodaeth Cyswllt

Rhif Ffôn
  02920 221330
Email Address
  [email protected]