Elena Schmitz

Elena Schmitz

Pennaeth Datblygu | Tîm Craidd

Elena yw Pennaeth Datblygu NoFit State, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Bu'n gweithio mewn swyddi uchel yn sector y celfyddydau yng Nghymru ers 15 mlynedd. Bu’n Bennaeth Rhaglenni gyda Llenyddiaeth Cymru ac mae wedi gweithio dros Gymru yn Biennale Celf Fenis, ac i Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Oriel g39 a Chanolfan Gelfyddydau Chapter. Mae Elena'n credu'n gryf yng ngrym y celfyddydau i newid bywydau ac mewn cydweithio rhyngwladol yn y celfyddydau. Daeth i Brydain o’r Almaen yn 2004 fel rhan o’i MA mewn Astudiaethau Prydeinig ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Mae’n aelod o Grŵp Cynghori y British Council ar y Celfyddydau a'r Economi Greadigol yn y DU.

Daeth Elena ar draws sioe NoFit State, Block, yn 2018 a chafodd ei syfrdanu. Yna ymunodd ei mab â'r syrcas ieuenctid ac, o'r diwedd, llwyddodd hi i redeg i ffwrdd gyda'r syrcas ym mis Ebrill 2022. Mae hi wrth ei bodd â'r ymdeimlad o weithio mewn tîm ac undod byd y syrcas.

Gwybodaeth Cyswllt

Rhif Ffôn
  02921 321 004
Email Address
  [email protected]