Pearl

Pearl

Cefnogwyr Cymunedol | Cefnogwyr Cymunedol

Mae Pearl yn disgrifio'i hunan fel person hwyliog, sy'n barod i helpu a rhannu gwybodaeth.  Mae ganddi hanes diddorol, wedi treulio cyfnodau yn America, Jamaica, Prydain, y Traeth Ifori, Nigeria ac, yn fwyaf diweddar, treuliodd 5 mlynedd yn Tsieina'n astudio ar gyfer gradd mewn economeg.  Y dyddiau hyn, mae i’w gweld yn aml yn gweithio yn Haven’s African Foods ar Stryd Clifton.  Gan iddi grwydro gymaint, mae Pearl yn wych am greu cysylltiadau â phobl newydd ac mae’n llawn cyffro wrth feddwl am greu digwyddiad Clifton Street gyda’i chymuned leol.