Wendy Hii

Wendy Hii

Rheolwr Cyllid | Tîm Craidd

Wendy yw ein Swyddog Cyllid. Hi sy’n cadw cwch NoFit State ar wyneb y dŵr ac yn dod â gwên i wyneb pawb ar ddiwrnod cyflog.

Ymunodd Wendy â’r cwmni yn 2008 ac mae’n llwyddo i jyglo ei theulu, sy’n tyfu, â chymhlethdod cyllidol cynyddol y cwmni a gofynion cadw ffrwyn ar lwyth o berfformwyr syrcas.

Yn Sarawak, Malaysia y ganed Wendy a symudodd i Brydain yn 2000 i astudio cyfrifeg. Daeth yn gyfrifydd cymwysedig gyda'r ACCA yn 2005 a, chyn ymuno â NoFit State, bu’n gweithio i Snap Cymru.

Yn ei hamser hamdden, mae Wendy yn mwynhau coginio ac ymlacio gyda’i thri phlentyn hyfryd yn Nhrefforest ar ôl diwrnod caled o waith yn swyddfa NoFit.

Gwybodaeth Cyswllt

Rhif Ffôn
  02920 221330
Email Address
  [email protected]