Tom Rack

Tom Rack

Cyfarwyddwr Artistig | Tîm Craidd Tîm Cynhyrchu

Yn ogystal â chynhyrchu sioeau mawr (Bianco, Labyrinth, ImMortal a tabú), mae Tom yn goruchwylio gweledigaeth artistig gyffredinol NoFit State, yn cynnwys rhaglen gymunedol a rhaglen ymgysylltu’r cwmni.

Ar un adeg, roedd Tom yn jyglwr ac yn berfformiwr stryd yn ogystal â pherfformio yn yr hen babell las ac yn sioeau gwreiddiol NoFit State. Dros y 30 mlynedd diwethaf, gwelodd y cwmni'n tyfu o ddau berson yn gweithio o lofft gefn yng Nghaerdydd i’r sefydliad o fri rhyngwladol ydyw heddiw ¬– a bu'n rhan o'r datblygiad hwnnw.

Yn ogystal â chynhyrchu BIANCO, Labyrinth, ImMortal a tabú, mae Tom yn cyfrannu at waith y tîm dylunio - gan helpu i ddatblygu systemau ac estheteg cynyrchiadau teithiol y cwmni.

Mae Tom yn mwynhau creu gwaith newydd sy'n herio ein syniad o syrcas, gan ddatblygu'r gelfyddyd ac arddull arbennig NoFit State....a mynd â nhw i fannau pellennig a chynulleidfaoedd anhygoel ledled y byd.

Gwybodaeth Cyswllt

Rhif Ffôn
  02920 221 330
Email Address
  [email protected]
Twitter
  https://twitter.com/TomNofitstate