Neidio i'r prif gynnwys
reopening_banner_.jpg

Derbynnydd

Mae NoFit State yn dymuno penodi rhywun i ymuno a thim cryf ac effeithiol y dderbynfa.

derbynnydd

Mae NoFit State yn dymuno penodi rhywun i ymuno a thim cryf ac effeithiol y dderbynfa. 

Mae gwaith derbynfa yn un o rolau pwysicaf y cwmni, sy'n sicrhau bod rhaglen ddosbarthiadau a rhaglen gweithgareddau cymunedol y cwmni'n rhedeg yn esmwyth a'u cefnogi, a chydweithio'n agos â'r tîm gweinyddol. Mae'n rhaid eich bod yn drefnus, yn frwd, yn ddeinamig ac yn gyfeillgar gan gyd-fynd â gwerthoedd y sefydliad. Byddwch yn cydweithio â'n cymuned amrywiol ac yn trin ei haelodau ag urddas a pharch. Cawn ein hysbrydoli'n barhaus gan y pethau rhyfeddol y gall pobl gyffredin eu gwneud ac rydym yn cynnig awyrgylch cynhwysol i bawb.

Rydym yn gweithio i roi cyfleoedd hygyrch a chreadigol i bawb i ymwneud â chelfyddyd unigryw syrcas gyfoes, ac rydym yn annog pobl i feithrin hunan-fri, i fynegi eu creadigrwydd ac i feithrin perthynas â'u cymuned, gan ddysgu sgiliau newydd a chael profiadau newydd.

Nofit State yw’r mwyaf o gwmnïau syrcas gyfoes teithiol y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn, mae'r cwmni'n dod i gysylltiad â 120,000 - 150,000 o bobl o bob oedran a chefndir o Gymru, y Deyrnas Unedig a'r byd.

 

Ymunwch â ni!

 

Darllenwch y Disgrifiad o'r Swydd sy'n atodedig i ganfod manylion pellach am y rôl. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal.  Anfonwch eich ceisiadau at [email protected]

Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.

 

Oriau gwaith: Rhan amser

Cyflog:  £12.60 yr awr

Dyddiad cau: 10am, dydd Mawrth 17 Mehefin

 

https://www.nofitstate.org/cy/amdanom/gyrfaoedd-a-chastio/

cyflogwr cyfleoedd cyfartal

Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â [email protected]

Mae NoFit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Ar hyn o bryd, nid oes gan bobl anabl, B/byddar a/neu niwrowahanol, pobl o gefndiroedd sy’n fwyafrif byd-eang na phobl o dan 30 gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ac felly rydym yn annog pobl o’r grwpiau hyn, yn neilltuol, i ymgeisio.

Oriau gwaith: Rhan amser

Cyflog:  £12.60 yr awr

Dyddiad cau: 10am, dydd Mawrth 17 Mehefin

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×