Sesiwn chwarae hamddenol: Mae rhai ohonom yn hoffi chwarae gyda dim ond ychydig o bobl o gwmpas mewn amgylchedd tawelach a mwy hamddenol. Bydd y gweithgareddau chwarae’n cynnwys chwarae blêr, synhwyraidd, celf a chrefft, dillad gwisgo i fyny, ceir Didi, gêmau a chyfle i fynd i’r man caeedig y tu allan sydd â lle dringo a siglen.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael er mwyn sicrhau lle tawelach, mwy hamddenol i chwarae ac mae angen archebu lle ymlaen llaw drwy [email protected] neu'r ffurflen gysylltu ar wefan Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd.
Nodwch ar y ffurflen 'Cysylltu â Ni' mai yn y sesiwn hamddenol y mae gennych ddiddordeb.