Allwch chi ddychmygu NoFit State heb sioe yn y Big Top?
Mae'n debygol mai fel'na fydd hi yn 2026 os na allwn sicrhau cefnogaeth ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae wedi mynd yn fwyfwy anodd gwneud teithiau'r Big Top yn gynaliadwy yn ariannol; mae costau'n codi, mae'n anos o hyd i bobl fforddio tocynnau oherwydd yr argyfwng costau byw a, gwaetha'r modd, dydi teithiau ein sioeau Big Top ddim yn cael cymhorthdal.
Rydyn ni'n brysur yn cyflwyno'r achos dros gynyddu'r gefnogaeth, yn cael sgyrsiau pwysig â Chyngor Celfyddydau Cymru, a'n gobaith o hyd yw dod yn ôl yn 2026 â chreadigaeth newydd yn y Big Top.
Sut allwch chi helpu?
Os ydych wedi bod yn ein Big Top, fe wyddoch ei fod yn brofiad unigryw. Soniwch wrth eich rhwydweithiau ac os ydych wir yn awyddus i helpu, gallwch gysylltu â Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant [email protected]
neu Brif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys [email protected]
Anfonwch gopi atom i ni gael gwybod sut mae'r ymgyrch yn mynd. Diolch.
Llofnodwch y Ddeiseb
Helpwch ni i achub y Big Top.
Helpwch ni i sicrhau bod prif gwmni syrcas Cymru'n dal i deithio gan hyrwyddo Cymru ledled y byd a chefnogi ecoleg y syrcas gartref yng Nghymru.
Oes 'na ryw newyddion da?
Oes! Dydi hyn ddim yn effeithio ar ein rhaglen gymunedol sydd â'i chanolfan yn Four Elms. Mae hi'n ffynnu ac rydym eisoes wedi sicrhau cyllid i gynnal y rhaglen yn Sblot, Adamsdown a Thremorfa am sawl blwyddyn.
Dydi hyn ddim yn effeithio ar ein sioe awyr-agored BAMBOO chwaith. Eleni, perfformiwyd 66 o sioeau mewn 5 gwlad i dros 30,000 o bobl. Cadwch lygad yn agored am fwy o ddyddiadau yn 2026.
Mae NoFit State Circus yma i aros, ond dydyn ni ddim yn siŵr eto a fydd yn bosib i ni fynd â'r Big Top ar daith yn y dyfodol.
Quote from Tom, Artistic Director at NoFit State
"Like many arts organisations, NoFit State is facing a financial crisis and the reality is that we may not be able to continue touring work in our Big Top. Unlike most arts organisations we are completely reliant on Box office income and fees to cover the ever-increasing costs of our productions and tours and like everybody everywhere are feeling the pinch. We are working with the Arts Council of Wales and hope to secure the relatively small amount of additional funding we need to keep the show on the road.
Touring in a Big Top allows us to pitch up anywhere and we are hugely proud that we take the same world-class work to the likes of Merthyr, Bangor or Haverfordwest as we do to major arts and circus festivals all over Europe. Very often our audiences in Wales are the ones with the most limited ability to afford a realistic ticket price, and historically we have been able to subsidise this and pay our bills from profitable international bookings and touring in England. Sadly this is no longer the case.
NoFit State is a cornerstone of the Welsh circus ecology, and over our 40-year history we have inspired and trained many circus artists and employed many freelancers. We have been pioneers and innovators of the art form and are one of Wales’s biggest cultural exports, taking Wales to the world and bringing the world to Wales.
The Irish time said sabotage was “dark and evocative of our disturbing world, there’s also a whole lot of humour and jollity, a sense of community and connection and the show is exhilarating breathtaking infectious and hugely entertaining rather than ponderous. A joyful chaotic, playful joyous accomplished start to the festival fortnight.
If we have to permanently pack up the Big Top, the impact will be felt far and wide and knock back the development and growth of this new and popular art form catastrophically"
Os oes gennych gwestiwn am hyn, cysylltwch â [email protected]
Cliciwch yma i lawrlwytho'r datganiad llawn.
Cliciwch yma i weld lluniau o'n blynyddoedd o deithio gyda'r Big Top.
Rhagor am y cwmni ac am fynd â'r Big Top ar daith.
• Ers 2022, perfformiwyd sioe fawreddog NoFit State, SABOTAGE, dros 400 o weithiau yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon a thir mawr Ewrop i gyfanswm o dros 170,000 o bobl mewn 6 gwlad.
• Yn 2025, perfformiwyd sioe awyr-agored y cwmni, BAMBOO, oedd yn dangos pa mor gynaliadwy yw bambŵ, 66 o weithiau i gynulleidfaoedd o dros 30,000 mewn 5 gwlad wahanol, yn cynnwys perfformiadau yng Ngŵyl Glastonbury a Gŵyl Sziget yn Budapest. Doedd y rhan fwyaf o'r perfformiadau ddim yn defnyddio trydan o'r grid, ond system batris solar yn lle hynny.
• Yng nghartref NoFit State yn Adamsdown, Caerdydd y mae canolfan eu Rhaglen Gymunedol boblogaidd sy'n cynnwys dosbarthiadau a hyfforddiant syrcas. Yn 2024, roedd dros 20,000 bresenoldebau gan bobl leol mewn 565 o weithgareddau a drefnwyd.
• Gŵyl Parc Fest yw dathliad y cwmni o'r celfyddydau, diwylliant a chymuned. Cynhelir yr ŵyl, sydd am ddim, bob blwyddyn yn Adamsdown, Caerdydd. Yn 2025, daeth dros 4500 o bobl leol yno.
• Yn 2024, rhoddodd y cwmni dros 3000 o docynnau am ddim i grwpiau cymunedol ac elusennau ledled y DU, gan helpu pobl na fyddai wedi gallu mynd i'w sioeau fel arall oherwydd eu hamgylchiadau ariannol.
• Ers ei ffurfio yn 1986, mae NoFit State wedi cynrychioli Cymru’n gyson ar y llwyfan byd-eang, ac wedi codi’r Big Top ar draws Ewrop, Asia a Chyfandiroedd America. Yn fwyaf diweddar, yn 2025, yng Ngŵyl Gelfyddydau Ryngwladol Galway, prif ŵyl gelfyddydau Iwerddon, ac yn y Biennale Internationale des Arts du Cirque ym Marseille, gŵyl syrcas gyfoes fwyaf y byd.
• Yn 2025, gosodwyd 49 o baneli solar ar do canolfan y cwmni yng Nghaerdydd, gan leihau allyriadau carbon yn sylweddol, a symud i gynhyrchu trydan glân, adnewyddadwy a chost-effeithiol sydd heb gynhyrchion gwastraff risg uchel.
• Yn 2025, mewn partneriaeth â Menter Caerdydd, bu'r cwmni'n cynhyrchu prosiectau creadigol Cymraeg yn Nwyrain Caerdydd a gydag Oasis Caerdydd er mwyn cyflwyno dosbarthiadau Cymraeg i staff a hyfforddwyr syrcas.