Rhaglen ddatblygu ar gyfer sector y syrcas yw Pontio. Caiff ei rhedeg gan NoFit State Circus a’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bwriad y rhaglen yw cynnig cefnogaeth hanfodol i artistiaid a gweithwyr proffesiynol ym myd y syrcas wrth iddynt bontio rhwng cyfnodau allweddol yn eu gyrfa ac mae wedi cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant arbenigol, buddsoddiad ariannol a chyngor proffesiynol i weithwyr syrcas ledled Cymru.
Bydd y rhaglen eleni yn adeiladu ar flwyddyn gyntaf y prosiect gan ganolbwyntio ar gynnig cefnogaeth i bedwar prif grŵp:
Artistiaid Ifanc - rhai rhwng 16 a 25 oed sy’n cymryd eu camau cyntaf ym mhroffesiwn y syrcas
Artistiaid sy’n Datblygu - unigolion a chwmnïau sydd yn 7 mlynedd gyntaf eu gyrfa yn y syrcas
Athrawon - rhai sy’n dysgu sgiliau syrcas fel proffesiwn
Gweithwyr syrcas proffesiynol - Rhai sydd wedi ennill eu plwyf yn sector y syrcas ac sy’n dymuno symud i’r lefel nesaf yn eu gyrfa.
Caiff y gweithgareddau i gefnogi gwaith syrcas yng Nghymru eu rhannu’n bedwar prif faes:
Datblygu Sgiliau Syrcas
Cyfle i ddatblygu sgiliau technegol a chreadigol trwy sesiynau a gyflwynir gan artistiaid gwadd. Anelir y rhain at ymarferwyr syrcas ac athrawon ar wahanol lefelau
Datblygu Sgiliau Proffesiynol
Cynigir sesiynau cyflwyno a dosbarthiadau meistr ar gyfer datblygiad proffesiynol. Anelir y rhain at ymarferwyr syrcas sy’n datblygu a rhai sydd wedi ennill eu plwyf
Preswyliadau Artistiaid Ifanc
Anelir y rhain at rai sydd wedi dod trwy syrcas ieuenctid ac artistiaid ifanc (16-25) sy’n byw, yn astudio neu’n gweithio yng Nghymru ac sy’n dymuno cael gyrfa broffesiynol yn y syrcas
Micro-gronfa a Mentora
Cynigir cefnogaeth trwy fentora a chymorth ariannol penodol i hybu datblygiad proffesiynol artistiaid, athrawon ac ymarferwyr ar wahanol lefelau
newyddion y prosiect
Er mwyn ddarganfod mwy am y prosiect a chael manylion am gyfleoedd datblygu proffesiynol, gofrestrwch i adran Gyrfaoedd, Castio a Chyfleoedd Gwaith ein cylchlythyr