syrcas ddoe, heddiw ac yfory yn “y pentref syrcas”
Dyddiadau’r Prosiect:22 Chwefror - 21 Ebrill 2018
250 o flynyddoedd ar ôl i Philip Astley ddyfeisio’r syrcas, cododd NoFit State bentref syrcas yn ei dref enedigol, Newcastle-under-Lyme. Trefnwyd Pentref Syrcas Ryecroft mewn partneriaeth â’r New Vic Theatre fel rhan o Circus Past, Present and Future ac roedd yn lle delfrydol i gynnal premiere creadigaeth newydd y cwmni, LEXICON, ac i lansio blwyddyn o ddathliadau.
Roedd y prosiect yn cynnwys arddangosfa luniau, ‘Themes and Stories’ gan Mark Robson a fu’n ffotograffydd i’r cwmni ers blynyddoedd; rhaglen Artistiaid Preswyl; gŵyl ieuenctid CircusWorks; ynghyd â ‘STATE OF PLAY’, confensiwn syrcas o’r hen deip; a chynhadledd a gynhaliwyd rhwng 13 ac 18 Ebrill.
Tair Pabell Fawr. Pum cwmni. Un sioe newydd. Pedwar darn o waith ar y gweill. Tri digwyddiad yn canolbwyntio ar y sector.
lexicon:y creu a’r premiere
22 Chwefror - 28 Mawrth 2018 (Premiere Byd)
Ar ôl cyfnod o bedair blynedd yn ymchwilio a datblygu, cafodd sioe LEXICON ei chreu un mis Chwefror rhewllyd yn Newcastle-under-Lyme.
artistiaid preswyl
Roedd yn bleser cael cwmni Bassline Circus, Zaq Andel, Blake's Circus a Milton Lopes, a fu’n datblygu ac yn rhannu eu syniadau a’u gwaith yn ystod ein cyfnod yn Newcastle-under-Lyme.
the state of play:confensiwn syrcas o’r hen deip
13 – 16 Ebrill, 2018
Yn ysbryd Circus 250, daeth perfformwyr ac ymarferwyr o bob oed a phob arddull syrcas ynghyd i rannu sgiliau, i gymryd rhan mewn rhaglen o weithdai, dosbarthiadau meistr mewn technegau hen a newydd, hyfforddiant llecynnau agored a nosweithiau cymdeithasol.
the state of the art:cynhadledd syrcas flaengar
17 – 18 Ebrill, 2018
Cynlluniwyd y cynulliad hwn trwy ymgynghori â’r sector. Daeth â gwneuthurwyr a meddylwyr ynghyd i archwilio, cwestiynu, procio a rhannu am y math o syrcas rydym yn ei gynhyrchu heddiw.
themes and stories:arddangosfa syrcas
28 Mawrth - 21 Ebrill
Mark Robson, ffotograffydd NoFit State ers blynyddoedd, oedd curadur ein harddangosfa ffotograffig, ‘Themes and Stories". Mae’n cymharu dyddiau cynnar y syrcas â’r sefyllfa heddiw, gyda chasgliad o luniau’n cynnwys triciau arbenigol, actiau traddodiadol a chipluniau ar fywyd bob-dydd y tu ôl i’r llenni.
dyddiadau’r prosiect
22 Chwefror - 28 Mawrth 2018
Creu LEXICON
19 - 23 Mawrth 2018
Preswyliad Bassline
26 - 30 Mawrth 2018
Preswyliad Zaq Andel
28 Mawrth 2018
Premiere Byd Lexicon
28 Mawrth - 21 Ebrill
Themes and Stories: Arddangosfa o ffotograffau syrcas gan Mark Robson
2 – 7 Ebrill 2018
Gŵyl Syrcas Ieuenctid CircusWorks
5 - 12 Ebrill 2018
Preswyliad Blake's Circus
13 - 16 Ebrill 2018
The State of Play: Confensiwn
17 - 18 Ebrill 2018
The State of the Art: Cynhadledd
18 Ebrill
Sioe Preswyliad Milton Lopes