Boed yn wefr i gerdded ymhlith perfformwyr NoFit State yn un o’n sioeau neu’r cyfle i ddatblygu eich sgiliau syrcas eich hun drwy hyfforddi gyda ni – rydych chi’n rhan o’n teulu.
Mae ein canolfan yng Nghaerdydd yn fwrlwm o weithgarwch y syrcas – o gyrsiau wythnosol ar gyfer dechreuwyr a phrentisiaid hyd at o hyfforddiant unigol, dosbarthiadau meistr a lle ymarfer ar gyfer pobl brofiadol broffesiynol..
Yn ogystal â’n rhaglen gymunedol brysur yng Nghaerdydd, rydym yn teithio gydag ystod o weithdai a phreswyliadau. Edrychwch ar ein hadran Sioeau a Phrosiectau er mwyn cael gwybod pryd byddwn yn agos i chi.
